Fe allai’r BBC ofyn i arweinydd y BNP, Nick Griffin, ymddangos ar y rhaglen Question Time.
Dywedodd llefarydd ar ran y gorfforaeth bod yn rhaid iddyn nhw drin pob plaid wleidyddol mewn modd diduedd.
Does yr un cynrychiolydd o’r blaid adain dde – wnaeth ennill dwy sedd yn Senedd Ewrop ym mis Mehefin – wedi ymddangos ar y rhaglen wleidyddol o’r blaen.
Dywedodd y BBC eu bod nhw’n trafod gyda’r pleidiau eraill ynglŷn â’r penderfyniad. Mae rhai wedi gwrthod rhannu llwyfan gyda’r BNP yn y gorffennol oherwydd eu polisïau ar hil.
Ond mae pleidiau bychain eraill sydd wedi ennill seddi yn Senedd Ewrop, gan gynnwys y Blaid Werdd ac UKIP, wedi cael eu cynrychioli ar Question Time.
“Mae’n rhaid i’r BBC drin pob plaid wleidyddol sydd wedi eu cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol ac sy’n gweithredu o fewn y gyfraith yn ddiduedd,” meddai llefarydd.
“Bydd ein cynulleidfa – a’r etholwyr – yn cael gwneud eu penderfyniad eu hunain ynglŷn â’r polisïau gwahanol sy’n cael eu cynnig gan y gwleidyddion etholedig.”
Dywedodd John Mann, cadeirydd y grŵp amlbleidiol ar wrth-semitiaeth, wrth bapur newydd y Times bod y penderfyniad yn un “abs?rd”.
“Dyma sut ddaeth Hitler i bŵer ac mae gan y bobol yma’r un nod.”