Mae’r Prif Weinidog Gordon Brown wedi hedfan i Berlin ar gyfer sgyrsiau gyda’r Canghellor, Angela Merkel.
Ar frig yr agenda fydd paratoadau ar gyfer trafodaethau arweinwyr y grŵp G20 yn Pittsburgh ar 24-25 Medi.
Cafodd y cyfarfod ei alw gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, er mwyn rhoi hwb i’r broses o arwain yr economi byd allan o’r dirwasgiad.
Mae Gweinidogion Cyllid gwledydd yr G20, gan gynnwys Prydain a’r Almaen, eisoes wedi cyfarfod yn Llundain a chytuno ar raglen gwerth biliynau o bunnoedd.
Dros y gwaethaf?
Y nod oedd parhau’r rhaglen tan fod y dirwasgiad byd-eang yn dod i ben, ond mae arwyddion bod rhai gwledydd, fel Ffrainc a’r Almaen, dros y gwaethaf yn barod.
Fe wnaeth economi’r Almaen ddechrau tyfu eto yn ail chwarter y flwyddyn hon, gan roi pwysau ar Angela Merkel i leihau ar y gwariant er mwyn gostwng dyled y wlad. Mae Gordon Brown yn poeni y gallai hynny danseilio adferiad bregus yr economi fyd-eang.
Fe wnaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ryddhau rhagolwg yr wythnos hon sy’n awgrymu y gallai’r Almaen lithro yn ôl i dwf negyddol o 0.1% yn 2010, gan godi pryderon ynglŷn â dirwasgiad “dwbl”.
Mae’r IMF yn rhagweld y bydd economi’r Deyrnas Unedig yn crebachu 4.5% eleni cyn tyfu 0.7% yn 2010.
Diwedd ar glymblaid yr Almaen?
Mae Angela Merkel yn wynebu etholiad cyffredinol ar Fedi 27 – diwrnod ar ôl trafodaethau Pittsburgh.
Ond yn wahanol i Gordon Brown mae Angela Merkel, arweinydd y Democratiaid Cristnogol, yn gwneud yn dda yn y polau piniwn.
Byddai buddugoliaeth fawr yn caniatáu i’w phlaid adael y glymblaid lletchwith rhwng y Democratiaid Cristnogol a’u gwrthwynebwyr, y Democratiaid Cymdeithasol.