Mae Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, wyth pwynt ar y blaen i Lafur, er gwaetha’r datguddiadau diweddaraf am y cynllun i ryddhau’r bomiwr Lockerbie.
Roedd y pôl piniwn o sut mae pobol yn bwriadu pleidleisio yn yr etholiad nesaf ar Senedd yr Alban, yn dangos fod plaid Alex Salmond wedi cynyddu’r blwch rhyngddyn nhw a Llafur.
Fe enillodd y cenedlaetholwyr yr etholiad yn 2007 er mai dim ond un pwynt ar y blaen i Lafur oedden nhw.
Daw’r hwb i obeithion yr SNP er gwaetha’r penderfyniad dadleuol i ryddhau’r bomiwr Lockerbie, a ddedfrydwyd i garchar am oes am ffrwydro awyren dros dref Lockerbie yn 1998 gan ladd 270 o bobol.
Cafodd yr arolwg ei gynnal tua phyfethnos ar ôl y penderfyniad dadleuol i ryddhau’r bomiwr, ac yn syth ar ôl pleidlais gan Senedd yr Alban i gondemnio’r penderfyniad.
Barn feddygol ‘heb effeithio ar y penderfyniad’
Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban wedi dweud nad oedd barn tri o feddygon a dalwyd amdanynt gan lywodraeth Libya ar iechyd y bomiwr Lockerbie wedi effeithio ar y penderfyniad i’w ryddhau ar sail drugarog.
Yn ôl y Sunday Telegraph roedd Libya wedi talu am gyngor meddygol tri doctor a’u hannog nhw i ddweud nad oedd gan Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi fwy nag tri mis i fyw.
O dan gyfraith yr Alban mae modd rhyddhau unrhyw garcharor nad oes disgwyl iddyn nhw fyw am fwy na thri mis.
Ond dywedodd Llywodraeth yr Alban nad oedd barn y doctoriaid – dau Brydeiniwr ac un dyn o Libya – wedi ei gymryd i ystyriaeth pan benderfynodd Kenny MacAskill ryddhau’r bomiwr 57 oed fis diwethaf.
Roedd llefarydd ar ran tîm amddiffyn Megrahi wedi cyflwyno eu tystiolaeth am ei salwch yn rhy hwyr iddo gael ei ystyried gan Kenny MacAskill.
Fel canlyniad roedd Llywodraeth yr Alban wedi galw ar gyngor “nifer” o arbenigwyr ar gyfer yr asesiad clinigol o iechyd Megrahi.
Dywedodd Aelod Llafur o Senedd yr Alban, Richard Baker, bod y mater wedi ei “ddelio ag o mewn modd analluog ac amhriodol” gan Lywodraeth yr Alban.
“Does dim amheuaeth bod Mr Al Megrahi yn sâl iawn, ond mae arbenigwyr canser wedi dweud y gallai fyw dipyn yn hirach na thri mis.
“Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â pha mor agored mae Llywodraeth yr Alban wedi bod gyda’r bobol.”