Gwrthododd Gordon Brown roi pwysau ar Cyrnol Gaddafi am iawndal i ddioddefwyr bomiau’r IRA oherwydd pryder y gallai ymyrraeth gweinidogaethol frifo cysylltiadau Prydain gyda Libya.
Y llynedd, fe wnaeth y Prif Weinidog gyfarfod gydag ymgyrchwyr oedd am gael iawndal gan gyfundrefn Gaddafi, wnaeth ddarparu semtecs a ffrwydron a ddefnyddiwyd gan y gweriniaethwyr yng Ngogledd Iwerddon.
Ond mewn llythyr fis Hydref dywedodd Gordon Brown wrth eu cyfreithiwr nad oedd yn ei hystyried hi’n “briodol” i’w Lywodraeth fynd i drafodaethau gyda Libya ar y mater.
Nododd yr angen am gyd-weithrediad parhaus oddi wrth y wladwriaeth yng ngogledd Affrica ar faterion fel terfysgaeth.
Mewn llythyr at gyfreithiwr y dioddefwyr, Jason McCue, a ddaeth i ddwylo’r Sunday Times heddiw, mae Gordon Brown yn mynnu nad masnach oedd y “rheswm craidd” dros ei benderfyniad, ond ei fod yn cydnabod bod hynny’n chwarae rhan bwysig ym mherthynas Libya a’r Deyrnas Unedig.
Gwrthododd Stryd Downing awgrymiadau bod y Prif Weinidog wedi penderfynu peidio a trafod gyda Libya rhag ofn iddo niwieidio cytundebau olew proffidiol cwmnïau o Brydain.
“Fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn hollol glir yn ei llythyr at Mr McCue, nid oedd ystyriaethau masnachol yn ffactor ym mhenderfyniad y Llywodraeth na fyddai’n briodol i fynd i drafodaethau uniongyrchol â Libya ar y mater hwn,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10 Stryd Downing.
Beirniadaeth o Iwerddon
Gofynodd AS o Ogledd Iwerddon, Jeffrey Donaldson, heddiw pam nad oedd y Prif Weinidog yn fodlon amddiffyn dioddefwyr ymosodiadau’r IRA ym Mhrydain yn y modd y gwnaeth y cyn-Arlywydd George Bush.
“Rwy’n siŵr y bydd pobol Gogledd Iwerddon eisiau gwybod pam nad oedd gan Gordon Brown yr un awydd i sefyll o blaid y rhai sy’n dioddef o derfysgaeth yr IRA fel y gwnaeth George Bush i’r dioddefwyr o America,” meddai’r AS o Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
“Fe wnaeth o sicrhau cytundeb o biliynau o ddoleri fel iawndal gan Libya.”
Mae Jeffrey Donaldson yn rhan o grŵp traws-bleidiol o Aelodau Seneddol sy’n paratoi i deithio i Tripoli i drafod iawndal ar gyfer dioddefwyr trais yn y IRA gydag awdurdodau Libya.
“Mae llawer o drefi a dinasoedd ledled y DU wedi eu difrodi yn wael gan y semtecs a ddarparwyd ac mae cannoedd o fywydau wedi eu colli,” meddai Jeffrey Donaldson.