Mae cerflun o arwr Llanelli a Chymru, Ray Gravell, wedi ei ddadorchuddio y tu allan i Barc y Scarlets, cyn gêm y rhanbarth yn erbyn Leinster neithiwr.
Fe fu farw Ray Gravell yn mis Hydref 2007 ar ei wyliau yn Sbaen. Cafodd y cerflun ei greu gan y cerflunydd, David Williams-Ellis.
Dadorchuddiwyd y cerflun efydd gan wraig Ray Gravell, Mari a’i ferched, Manon a Gwenan.
Mae’r cerflun wedi ei leoli y tu allan i eisteddle ddeheuol Castell Howell ar Barc y Scarlets, ac yn sefyll ar ben carreg o Fynydd-y-Garreg, cartref Ray Gravell.
Y cerflunydd David Williams-Ellis yw gor-nai Syr Clough Williams-Ellis, sy’n fwyaf enwog fel pensaer pentref Portmeirion.
“Dw i yn bersonol wedi syrthio mewn cariad â’r cerflun ac yn gobeithio y gwnaiff pawb arall hefyd – yn gyflym,” meddai cyn y dadorchuddio.
Dau garreg enwog
“Mae gan Mynydd y Garreg nawr ddwy garreg enwog – un oedd Grav a’r llall yw’r graig y mae’r cerflun yma’n sefyll arni,” meddai Derek Quinnell.
“Mae’n ein hatgoffa ni beth mae e’n ei olygu i fod yn Scarlet ac mae nifer y bobol sydd yma heddiw’n dangos pa mor bwysig oedd e’ i ni.”
Dywedodd Huw Evans, Cadeirydd y Scarlets, nad oedd dyn gyda mwy o argyhoeddiad a chalon wedi chwarae i’r Scarlets mewn 130 mlynedd.
“Roedd Ray yn ddyn mor ddiymhongar, ond dwi’n meddwl ein bod ni i gyd yn gwybod y byddai’n gweld y deyrnged rydyn ni a gweddill Cymru, ac yn wir y byd rygbi i gyd, wedi talu iddo heddiw fel anrhydedd.”
Fe aeth y Scarlets yn eu blaen i faeddu Leinster, pencampwyr Ewrop, 18-16.