Cafodd Gwylwyr y Glannau Abertawe eu galw bore ‘ma cyn 5am ar ôl i ddyn yrru ei gar oddi ar glogwyn 200 troedfedd o uchder yn Hartland Quay, yng ngogledd Dyfnaint.
Am 5.24am fe gafodd y car ei darganfod ac fe gafodd y gwasanaethau brys ac achub eu galw. Cafodd dau aelod o’r gwylwyr y glannau eu gollwng i lawr ar raff i’r car.
Cadarnhaodd y gwylwyr bod un dyn yn fyw ac yn dal yn y car, ond roedd wedi colli llawer iawn o waed.
Cafodd winsh ei gollwng i lawr i ble’r oedd y car wedi glanio a chafodd y claf ei dynnu o’r car a’i hedfan mewn hofrennydd i Ysbyty Gogledd Dyfnaint.
“Rydan ni dal yn ansicr ynglŷn ag amgylchiadau gyrru’r car oddi ar y clogwyn,” meddai Steve Jones o Wylwyr y Glannau Abertawe.
“Ond roedd y dyn yn fyw pan gafodd o’i dynnu o’r car a llwyddodd o i siarad gyda’n tîm achub.
“Yn ffodus roedd y tywydd yn reit dda bore ‘ma, wnaeth wneud ei dynnu o’r car yn haws. Dyw’r car ddim mewn unrhyw beryg o gael ei gymryd gan y llanw ac fe fyddwn ni’n meddwl am gynllun i’w symud o ble y mae o.”