Talwyd teyrnged heddiw i ddynes o Gymru gafodd ei lladd wedi i’w char gael gwrthdariad gyda bws ym Maes Awyr Gatwick.
Roedd Melanie Wisden newydd ollwng ffrindiau yn ail faes awyr prysuraf Prydain pan gafodd ei Ford Ka ei ddinistrio gan fws National Express cyn 1.30pm ddydd Gwener.
Roedd y ddynes 34 oed yn byw yng Nghaerdydd gyda’i merch 11 oed, Mia. Roedd hi wedi cymryd diwrnod oddi ar ei gwaith yn Starbucks i wneud y daith.
Dywedodd mam Melanie Wisden wrth bapur newydd y Wales on Sunday ei fod o’n “wastraff o fywyd – mae o’i gyd wedi mynd.
“Rydan ni’n mynd i’w methu hi gymaint. Fe fydd hi yn ein calonnau ni am byth bythoedd.”
Mae mwy nag 100 o bobol wedi gadael teyrngedau ar dudalen Facebook gafodd ei chreu er côf am Melanie Wisden gan ei chwaer, Maxine.
Fe wnaeth y gwrthdrawiad achosi oedi hir ym Maes Awyr Gatwick a doedd dim mynediad i’r Derfynell Ogleddol o gyffordd 9 yr M23 wrth i’r ymchwilwyr glirio’r safle.
Cafodd gyrrwr y bws ei gludo i’r ysbyty yn dioddef o sioc ac fe wnaeth un o’r teithwyr anafu ei arddwrn.
Cafodd pob un o’r ffyrdd eu hagor erbyn 8pm ond erbyn hynny roedd nifer o geir wedi eu gadael ar ochr y ffyrdd i’r maes awyr.
Dywedodd gorsaf radio BBC Sussex bod rhai pobol wedi gadael eu ceir a rhedeg tuag at y maes awyr gyda’u cesys dillad.