Mae o leiaf 15 wedi boddi heddiw ar ôl i gwch oedd yn cludo ymwelwyr o Fwlgaria suddo ar Lyn Ohrid ar ffin orllewinol Macedonia.

Fe lwyddodd criwiau achub i arbed 53 o bobol, gan gynnwys pedwar a gafodd eu cludo i ysbyty yn nhref Ohrid.

Fodd bynnag, mae’r heddlu’n pryderu fod mwy wedi marw yn sgil y ddamwain.

Dywedodd tystion ar deledu A1 Macedonia fod y cwch oddeutu 200 llath o’r lan pan holltodd yn annisgwyl a suddo.

Yn ôl y darlledwyr, roedd oddeutu 50 o ymwelwyr yn teithio o Ohrid tuag at fynachdy Uniongred Sveti Naum – sydd tua 18 milltir i’r de o’r ffin gydag Albania – pan suddodd y cwch.

Dyw swyddogion ddim yn siŵr beth achosodd y ddamwain eto ond mae’r Heddlu wedi datgan mai dyma’r drychineb waethaf yn hanes y llyn.

Mae Gjorgje Ivanov, Arlywydd Macedonia, ynghyd â phedwar o weinidogion y Cabinet yn teithio i’r safle.

Dyma’r llyn dyfnaf yn rhanbarth y Balkan, ac mae wedi bod yn safle etifeddiaeth y byd Unesco ers 1979.