Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion ar ôl damwain ffordd yn oriau man y bore (5 Medi) ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd Fiat Punto lliw aur yn teithio tuag at ganol y dref tua 4.40am pan aeth i mewn i wal flaen gardd tŷ yn Park Street.

Roedd dau ddyn lleol yn teithio yn y car, un yn 21 oed a’r llall yn 22.

Mae un o’r dynion yn ddifrifol wael yn Ysbyty Tywysog Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r llall mewn cyflwr enbyd yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Wedi’r digwyddiad, cafodd y ffordd ei chau i weithwyr fforensig archwilio’r safle.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach neu a welodd y Fiat Punto’n gynharach i gysylltu gyda nhw ar 01656 869 332, ar 101 neu’n ddienw ar Taclo’r Tacle’ – 0800 555 111.

Dyn anymwybodol

Mae Heddlu De Cymru hefyd yn ymchwilio i ddigwyddiad ar gyffordd Ffordd St. Teilo a Ffordd Glasfryn ym Mhontarddulais yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn, 5 Medi.

Rhwng 00.30 a 1.30am cafwyd hyd i ddyn 26 oed yn anymwybodol. Cafodd ei gludo i Ysbyty Treforys.

Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd rhywbeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 01792 456999 neu â Thaclo’r Tacle ar 0800555111.