Mae merch ifanc o’r Fenni sy’n chwarae’r brif ran mewn fideo i hyrwyddo diogelwch ar y ffordd wedi dweud heddiw ei bod wedi’i “rhyfeddu” gan lwyddiant y ffilm.
Roedd Jenny Davies yn chwarae rhan merch 17 oed o’r enw Cassie Cowan mewn darn o ffilm gan Heddlu Gwent am ferch ifanc sy’n achosi pedair marwolaeth drwy anfon negeseuon testun wrth yrru.
Mae’r ffilm wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi ei gwylio gan filiynau o bobol ar draws y byd drwy gyfrwng safle YouTube ar y we.
Doedd Jenny Davies ddim wedi disgwyl i’r ffilm gael ei dangos ar draws y byd, dim ond mewn ysgolion, meddai.
Er mai ei chynllun gwreiddiol oedd mynd i Brifysgol Bryste i astudio Drama, yn dilyn llwyddiant y ffilm, mae wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan i ennill mwy o brofiad actio.
“Swreal”
Cafodd yr actores ifanc ei chyfweld yr wythnos ddiwethaf am ei rôl yn y ffilm gan orsaf deledu CBS yn America. Disgrifiodd y profiad fel un “swreal”.
Dywedodd Mick Giannasi, Prif Gwnstabl Gwent:
“Mae’r ffilm yr un mor addas i yrwyr yn Tennessee ac i yrwyr yma yn Nhredegar. Gall gyrru negeseuon testun wrth yrru achosi trasiedi,” meddai.
Bydd y ffilm lawn 30 munud o hyd yn cael ei darlledu fis Hydref eleni.