Fe fydd tri pherson sydd wedi’u cyhuddo o brynu a gwerthu pobl i’r fasnach ryw yn mynd gerbron llys am hyd at 10 wythnos yn y flwyddyn newydd.
Fe wnaeth Thomas John Carroll, 48 oed, ei ferch Toma Carroll, 26, a Shamiela Clark, 32, ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ddoe.
Eisoes, mae’r tri wedi gwadu cyhuddiadau o brynu a gwerthu pobl a’u cludo i mewn ac allan o Brydain, rheoli puteindra a chelu ffynhonnell enillion ariannol.
Cafodd y tri eu harestio yng Nghymru fis Rhagfyr y llynedd.
Mae Thomas Carroll a Shamiela Clark o ardal Castell Martin, ger Hwlffordd, a Toma Carroll o Crossneen, Co Carlow, Iwerddon.
Wedi gwrando ar grynodeb yr achos ddoe, fe wnaeth y barnwr, John Diehl, QC, ddatgan y gallai’r achos gymryd hyd at 10 wythnos i’w glywed yn y flwyddyn newydd yn ogystal â chynnwys 70 tyst.
Bydd y tri diffynnydd yn cael eu cadw yn y ddalfa tan wrandawiad pellach yn Llys y Goron Abertawe ar 13 Tachwedd.
(Llun: Llys y Goron Abertawe – Nigel Davies-Trwydded CCA2.0)