Eco-derfysgwyr oedd ar fai am ddinistrio dau dŵr darlledu yn yr Unol Daleithiau, yn ôl rheolwr gorsaf radio sy’n dweud eu bod nhw wedi gadael eu henw yno, ddoe.

Daethpwyd o hyd i’r llythrennau ‘ELF’ – Earth Liberation Front – wrth y tyrrau, meddai Andy Skotdal, rheolwr cyffredinol KRKO Radio yn Everett, tua 25 milltir (40 km) i’r gogledd o Seattle, yn nhalaith Washington.

Mae’r grŵp yn gasgliad o amgylcheddwyr radical sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am ddwsinau o ymosodiadau ers yr 1990au.

Fe gafodd y tyrrau eu tynnu i lawr oherwydd pryderon ynglyn â iechyd a materion amgylcheddol, yn ôl e-bost i bapur newydd yr Herald yn Everett.

“Mae’n rhaid i ni bwyso a mesur ein blaenoriaethau, a dyw’r ecosystem leol yn Everett, ynghyd â thrigolion yr ardal, ddim angen tyrrau radio ychwanegol sy’n dod ar draul prisiau tai llai a thonnau radio niweidiol,” meddai llefarydd ar ran ELF yn yr e-bost.

Parhaodd y cwmni radio i ddarlledu drwy’r bore ar ôl symud i ddefnyddio offer darlledu eraill.