Mae rhai menywod yn credu bod modd defnyddio bara, cling ffilm a croen chyw iâr fel modd o rwystro beichiogrwydd wrth gael rhyw, yn ôl arolwg newydd ar atal cenhedlu.
Mae’r arolwg o 1,000 o fenywod rhwng 18 a 50 oed wedi datgelu nifer o gamsyniadau ynglŷn ag atal cenhedlu.
Roedd un o bob pump wedi dweud eu bod nhw wedi clywed bod dulliau rhyfedd iawn o atal cenhedlu – gan gynnwys bwyta garlleg neu ddefnyddio croen cyw iâr fel condom – yn effeithiol.
Datgelodd yr arolwg gan y gwneuthurwyr cyffuriau, Bayer Schering Pharma, bod gan nifer o fenywod hefyd gamddealltwriaeth ynglŷn â’r bilsen atal cenhedlu.
Roedd hanner o’r rhai a holwyd yn credu yn anghywir y gallai cymryd y bilsen achosi anffrwythlondeb tymor hir, a 10% yn credu y byddai’n cymryd blynyddoedd i adennill eu ffrwythlondeb ar ôl dod oddi ar y tabledi.
“Nid yw’n syndod bod yr arolwg hwn wedi datgelu nifer o fythau ynglŷn ag atal cenhedlu, o gofio fod gan Prydain y gyfradd uchaf o feichiogrwydd anfwriadol yn Ewrop, gyda chymaint â 50% o enedigaethau yn anfwriadol,” meddai Dr Annie Evans o Ganolfan Iechyd Rhywiol Bryste.