Mae mam merch ifanc o’r Iseldiroedd oedd â’i bryd ar fod y ferch ieuengaf i hwylio ar ei phen ei hun o amgylch y byd wedi gwrthwynebu ei chynlluniau.

Dywedodd Babs Muller wrth bapur newydd dyddiol ‘Volkskrant’ ei bod yn credu fod Laura Dekker, ei merch 13 oed, yn ddigon abl i gyflawni’r gorchwyl – ond nad oedd yn credu ei bod yn ddigon hen.

Dywedodd hefyd y byddai’n pryderu am ei diogelwch mewn ambell borthladd ar hyd y daith.

Ar 28 Awst, cafodd Laura Dekker ei rhoi o dan ofal y wladwriaeth am ddeufis tra bod seicolegydd plant annibynnol yn asesu ei gallu i gyflawni gorchwyl o’r fath.

Eisoes, mae gweithwyr cymdeithasol yn dadlau fod Laura Dekker yn rhy ifanc i bwyso a mesur peryglon taith o’r fath sy’n para am ddwy flynedd.

Mae seicolegwyr yn credu y gall unigrwydd y profiad ei niweidio yn ystod cyfnod datblygiadol ei harddegau cynnar.