Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Jack Straw, wedi cydnabod heddiw bod y gobaith am gytundeb dros olew gyda Libya wedi chwarae rhan yn eu trafodaethau ynglŷn â rhyddhau bomiwr Lockerbie.
Mewn cyfweliad gyda’r Daily Telegraph, dywedodd Jack Straw fod y gobaith o fasnach wedi chwarae “rhan fawr iawn” yn ei benderfyniad i gynnwys Al Megrahi mewn cytundeb i drosglwyddo carcharorion i Libya yn 2007.
“Dw i ddim am ymddiheuro hynny,” meddai Jack Straw. “Roedden ni am adeiladu pontydd gyda nhw, ac roedd hynny’n cynnwys masnach ac o hynny daeth cytundeb BP.”
Dywedodd llefarydd ar ran Jack Straw nad oedd o erioed wedi gwadu ei fod o’n ceisio dod i gytundeb gyda Libya ynglŷn â throsglwyddo carcharorion, fel “rhan o broses ehangach o normaleiddio ein perthynas gyda Libya… sydd er ein budd ni oll”.
Mae yna beryg y bydd ei sylwadau yn ail-danio’r cweryl dros ryddhau bomiwr Lockerbie, ar ôl i’r Prif Weinidog, Gordon Brown, fynnu yn gynharach yr wythnos hon nad oedd “dim cynllwyn yn ymwneud ag olew”.
Ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weinidog mai prif bolisi Llywodraeth San Steffan ar Libya oedd yr angen i gynnwys y wlad yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth ryngwladol a lledaeniad arfau niwclear, yn hytrach nag olew neu ddiddordebau masnachol.
Mae’r Ceidwadwyr wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’r ffordd y gwnaeth y llywodraeth ddelio ag achos Al Megrahi, wrth i arweinydd y Torïaid, David Cameron, fynnu y dylai fod wedi marw yn y carchar.