Mae merch 18 oed sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei chariad, oriau yn unig ar ôl derbyn ei chanlyniadau Lefel A, wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth heddiw.

Mae Katherine McGrath (ar y chwith yn y llun) yn cael ei chyhuddo o drywanu ei chariad, Alyn Thomas, 22, yn y tŷ yr oedd hi’n rhannu efo’i rhieni, yn Fenwick Drive, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r cyfeiriad am tua 2:30am ar ddydd Gwener 21 Awst.

Ar ôl cyrraedd, methodd parafeddygon â dadebru Alyn Thomas, oedd yn dod o Cymer.

Cafodd Katherine McGrath ei harestio yn y tŷ, a chafodd ei chyhuddo o lofruddiaeth yr wythnos ganlynol.

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw, caniataodd y Barnwr Nicholas Cooke QC, i Katherine McGrath gael ei rhyddhau ar fechnïaeth, yn dilyn asesiad seiciatryddol ohoni.

Bydd yn rhaid i Katherine McGrath aros mewn cyfeiriad yn Lloegr rhwng 7pm a 7am yn ddyddiol, ac mi fydd yn cario tag trydanol.

Mae hi hefyd wedi ei gwahardd rhag mynd mewn i dafarndai a chlybiau, a fydd hi ddim ond yn cael dychwelyd i dde Cymru am gyfarfodydd wedi eu trefnu efo’i chyfreithiwr.