Mae gwerthiant ceir wedi cynyddu yng ngwledydd Prydain am yr ail fis yn olynol.

Cafodd cyfanswm o 67,006 o geir newydd eu cofrestru ym mis Awst, cynnydd o 6.0% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2008.

Yn ôl prif weithredwr y Gymdeithas Cynhyrchu a Masnachu Moduron, Paul Everitt, mae cynllun sgrapio’r llywodraeth wedi cael “effaith gadarnhaol” ar y gwerthiant.

Ond rhybuddiodd fod hyder prynwyr a masnachwyr yn parhau i fod yn fregus, a bod angen i’r arwyddion cynnar yma o adferiad economaidd gysoni.

Er y cynnydd, mae gwerthiant ceir yn ystod wyth mis cynta’r flwyddyn 21.5% yn is na’r un cyfnod yn 2008.

Ceir Poblogaidd

Y ceir mwyaf poblogaidd ym mis Awst 2009:

1. Ford Focus
2. Ford Fiesta
3. Hyundai i10
4. Vauxhall Corsa
5. Volkswagen Golf
6. Peugeot 207
7. BMW 3 Series
8. Vauxhall Astra
9. Vauxhall Insignia
10.Toyota Yaris

Mae mwy na 185,000 o gerbydau wedi cael eu prynu o ganlyniad i gynllun sgrapio’r Llywodraeth.

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r cynllun barhau nes bydd y £300 miliwn y rhoddodd y Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio. Mae Ffederasiwn y Diwydiant Masnach Moduron wedi dweud y dylai’r Llywodraeth ystyried ymestyn y cynllun.

Nod y cynllun sgrapio yw rhoi disgownt ar bris ceir newydd i bobol sy’n cael gwared â cherbydau sydd dros 10 oed.