Mae tri o chwaraewyr profiadol Cymru wedi dychwelyd i’r garfan i wynebu Rwsia yng Nghaerdydd nos Fercher nesaf.

Mae Craig Bellamy, Jason Koumas a Boaz Myhill i gyd wedi eu cynnwys ar ôl iddyn nhw fethu’r gêm yn erbyn Montenegro fis diwethaf.

Bryd hynny, fe wnaeth clwb Bellamy, Manchester City, gyfaddef iddyn nhw anghofio dweud wrth Gymdeithas Bêl Droed Cymru bod yr ymosodwr wedi ei anafu.

Mynnodd Bellamy nad oedd unrhyw amheuaeth am ei ymlyniad i Gymru ac mae John Toshack wedi dweud bod e’n croesawu gweld yr ymosodwr yn dychwelyd i’r garfan.

Mae Toshack hefyd wedi cynnwys chwaraewr canol cae Doncaster, Brian Stock, a bydd e’n gobeithio cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf.

Y garfan yn llawn:
Hennessey (Wolves), Myhill (Hull), Price (Brentford), J Collins (Aston Villa), Eardley (Blackpool), Gabbidon (West Ham), Gunter (Nottingham Forest), Morgan (Peterborough), Nyatanga (Bristol C), Ricketts (Bolton), A Williams (Abertawe), Collison (West Ham), Cotterill (Sheff Utd), Edwards (Wolves), Koumas (Wigan), Ledley (Caerdydd), Ramsey (Arsenal), Stock (Doncaster), Bellamy (Man City), Church (Reading), C Evans (Sheff Utd), Earnshaw (Nottingham Forest), Vokes (Wolves).