Bydd Nigel Farage yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd UKIP, datgelodd heddiw.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Dde-ddwyrain Lloegr ei fod o eisiau canolbwyntio ar ddisodli Llefarydd Ty’r Cyffredin, John Bercow, o’i sedd yn etholaeth Buckingham yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Fe gyhoeddodd Nigel Farage y byddai’n gadael y swydd ar ôl tair blynedd yng ngynhadledd y blaid yn Southport.
“Rwyf wedi bod yn arweinydd y blaid am dair mlynedd ac a dweud y gwir mae’r ddwy swydd (bod yn ASE hefyd) yn ormod ar gyfer un person – mae’r blaid yn llawer rhy fawr erbyn hyn,” meddai.
“Rydym ar fin cychwyn ar ymgyrch etholiad cyffredinol â dros 500 o ymgeiswyr ac oherwydd y ffordd mae UKIP wedi ei strwythuro yr arweinydd sy’n rhedeg popeth.”
Dywedodd Nigel Farage ei fod wedi penderfynu sefyll oherwydd bod y cyhoedd wedi colli eu ffydd mewn Aelodau Seneddol.
Diddymu Senedd Cymru
Bydd UKIP yn targedu seddi Cymreig yn yr Etholiad Cyffredinol ac etholiad y Cynulliad er mwyn ceisio diddymu’r Senedd.
Dywedodd ASE newydd Cymru, John Bufton, wrth gynhadledd UKIP fod y blaid am roi llais i’r ‘mwyafrif tawel’.
“Ni yw’r unig blaid fawr sy’n erbyn y Cynulliad,” meddai.
“Dim ond 2.9m o bobol sydd yng Nghymru, ac mae gan bob un gynghorydd, Aelod Seneddol, pump Aelod Cynulliad a phedwar Aelod o Senedd Ewrop.
“Ar yr un pryd, mae’r goleuadau stryd yn fy nhref ym Mhowys wedi eu troi i ffwrdd, ac mae ysgolion, toiledau cyhoeddus a chanolfannau gwybodaeth yn cau.”
Dywedodd hefyd bod Aelodau’r Cynulliad yn gwastraffu adnoddau ar adeiladau newydd yn Aberystwyth a Llandudno.