Mae un o sêr rygbi Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth i’w glwb golff lleol sydd yn wynebu dyfodol ansicr.

Mae Shane Williams yn pryderi am ddyfodol Clwb Golff y Garnant, am nad oes sicrwydd y bydd cefnogaeth ariannol ar gael gan y cyngor sir.

Ac yn ôl un o sylfaenwyr y Clwb yn Nyffryn Aman, dyw’r clybiau golff bach ddim yn elwa digon o’r trefniadau i gynnal Cwpan Ryder yng Nghymru.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai llawer mwy o gefnogaeth ar lawr gwlad yn sgil y ffaith bod Cwpan Ryder yn dod i Gymru’r flwyddyn nesa,” meddai Kevin Madge, sy’n cynrychioli ardal y clwb ar Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Rhan bwysig o fywyd yr ardal

“Mae’n eironig bod ar un llaw’r holl sylw yma i golff yng Nghymru ond ar yr un pryd, mae clybiau fel Garnant yn ei chael yn anodd i gadw fynd!

“Bydden ni wedi disgwyl bod Grant Aid o ryw fath yn cael ei gynnig i glybiau fel Garnant er mwyn helpu’r clybiau i sefydlogi ac ehangu, ond hefyd er lles golff yn gyffredinol.”

Ac yn ôl asgellwr Cymru, Shane Williams, mae bwysig i bobol ifanc yr ardal bod y clwb yn parhau.

“Doedd y cwrs ddim yna pan o’n i’n tyfu lan ac mae e wedi chwarae rhan bwysig yn bywyd yr ardal ers iddo fe agor. Dyna pam i fi yn gwneud cymaint â galla’ i i gadw’r lle ar agor. Dw i’n siomedig bod y lle yn cael ei adael mas cymaint gan bobol byd golff.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Medi 3