Mae peidio cynnig y cwpan gwin i addolwyr yn ystod gwasanaeth y cymun rhag ofn lledaenu ffliw’r moch yn “chwithig iawn.”

Dyna farn un o’r offeiriaid yn Eglwys Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth sydd wedi penderfynu ymatal rhag defnyddio cwpan gwin yn ystod y cymun.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cynghori’r holl eglwysi y dylai’r arfer ddod i ben am y tro oherwydd y perygl gan bandemig y ffliw moch.

“Does yna neb wedi dadlau’n chwyrn,” meddai’r Parchedig Ganon Enid Morgan sy’n dweud ei fod yn fater “sensitif”ac anodd.

“Ond mae hi’n chwithig iawn. Dw i yn gallu ei gyfiawnhau e yn ddiwinyddol, ond mae e’n dal i deimlo yn od.

“O ran digwyddiad, ry’ch chi mewn amgylchiadau lle mae’r bara yn cynrychioli pob rhodd mae Duw yn ei roi. Ond mae e’n wahanol i’r hyn y mae pobol wedi arfer ag e, ar ran ddwys o’r gwasanaeth.

“Mae hi’n fater o egwyddor Anglicanaidd bod pawb yn cael bara a gwin. Y ffaith ydi, mae pobol yn llawer tebycach o ddal y ffliw yn Morrisons.”

Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Medi 3