Yn ôl dyn busnes sy’n delio â gwastraff ers degawdau, mae angen i bobol lanhau eu gwastraff cyn ei ailgylchu neu bydd yr holl broses yn ofer.

Roedd pethau’n haws pan nad oedd pobol yn cael eu gorfodi i ailgylchu, meddai, oherwydd roedd y rhai oedd yn gwneud yn fwy gofalus.

Erbyn hyn dyw nifer ddim yn fodlon glanhau eu tuniau a jariau gwydr cyn eu rhoi yn y sach ailgylchu, a bydd yn rhaid eu taflu yn hytrach na’u ddefnyddio eto, meddai.

“Doedd neb lawer yn gwybod am ailgylchu nôl ar ddiwedd yr 1980au – dim ond rhai academyddion a grwpiau pwyso fel Cyfeillion y Ddaear.”

Dyma sut mae Ged Farnell yn cofio’r cyfnod pan aeth ati gyda’i bartner busnes i sefydlu canolfan ailgylchu yn Aberystwyth.

“Ro’n i’n rhan o Gyfeillion y Ddaear, ac wrth fynd at y Cyngor Sir (Ceredigion), roedden nhw’n dweud wrtha’ i mai ffad a fyddai’n pasio oedd ailgylchu, a byddai pobol yn colli diddordeb,” meddai Ged Farnell.

Er bod y busnes yn gwneud yn dda, gyda bron popeth sy’n dod i’w safle – yn blastig, papur, poteli ac ati – yn cael eu gwerthu i gwmnïau eraill, mae Ged Farnell yn dweud fod pethau’n haws yn y gorffennol.

“Bryd hynny, roedd pobol yn ailgylchu, a doedd rhai ddim. Yn syml iawn, roedd y rheini oedd eisiau ailgylchu yn sortio’r pethau’n iawn, ac yn dod â phob dim aton ni’n lân,” meddai Ged Farnell.

Ond erbyn hyn, mae’r cyngor yn darparu bag plastig clir i bobol er mwyn rhoi pethau ynddo i ailgylchu, “ac mae pawb yn stwffio pob dim i mewn, ac yn ei daflu mas o’r ffordd.”

Cewch ddarllen mwy ar yr ymchwiliad arbennig am ailgylchu yn Golwg, Medi 4