Mae undeb athrawon yn rhybuddio bod angen gwneud mwy i gael gwared ar asbestos o ysgolion Cymru.
Yn ôl yr NASUWT, mae mwyafrif ysgolion Cymru ag asbestos a does digon yn cael ei wneud i dynnu sylw at y peryglon.
“Bydd athrawon a phlant yn dechrau blwyddyn ysgol newydd heb gael eu hatgoffa o leoliadau asbestos,” meddai Tim Cox o’r undeb athrawon NASUWT sydd hefyd yn ysgrifennydd cangen Bro Morgannwg.
“Mae asbestos mewn 55 allan o’r 60 ysgol ym Mro Morgannwg ac allan o 17,000 o ysgolion Cymru mae 14,081 ohonyn nhw efo asbestos o ryw fath neu’i gilydd,” meddai gan gyfeirio at wybodaeth ddaeth i law drwy gais dan y ddeddf ryddid gwybodaeth.
“Gan amlaf asbestos gwyn yw e – gwyn yw’r math lleiaf difrifol ond mae glas sy’n fwy angheuol i gael hefyd, yn ogystal â brown sy’n ffiaidd,” meddai.
Yn ôl yr undeb, fydd neb chwaith yn dweud wrth aelodau newydd o staff ble mae’r ffibrau all achosi canser os fydd rhywun yn tarfu arno – ac mae rhoi pin bawd mewn wal yn ddigon i wneud hynny.
“Pan mae’r asbestos yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf yn dilyn arolwg gan yr awdurdod lleol maen nhw fel arfer yn rhoi sticeri i ddangos lle mae o. Gall fod mewn teils to a llawr neu mewn gwagle rhwng dwy wal.
“Ond ymhen amser mae’r sticeri yma’n treulio neu’n cael eu tynnu a ‘does neb yn atgoffa athrawon ble mae’r perygl,” meddai Tom Cox.
Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Medi 3