Gyda hanes hir o weithfeydd hearn, dur a glo, a’i rôl yn nofel ‘Rape of the Fair Country’ a chyfres deledu ‘Coalhouse’, mae i Blaenafon stori liwgar dros ben mor belled.

Ac i ychwanegu at hyn, Blaenafon yw’r lle diweddaraf yn Sir Fynwy i ennill enw fel cyrchfan fwyd, gydag agoriad diweddar Ysgol Goginio Vin Sullivan yn cyfuno gyda busnesau llwyddiannus Y Fenni a Threfynwy i greu triongl gastronomeg.


Menter ar y cyd

Mae’r fenter yn brosiect ar y cyd rhwng y cyflenwr bwyd o Flaenafon, John Sullivan; yr ysgrifennwr bwyd o Swydd Henffordd, Lindy Wildsmith; a’r cogydd enwog o’r Fenni, Franco Taruschio – wnaeth danio sîn fwyd yr ardal nôl yn y 60au gyda’i fwyty llwyddiannus, y Walnut Tree.

Wedi blynyddoedd o gyd-weithio ar wersi coginio yng nghanolfan The Hill yn y Fenni, bu’n rhaid i Franco a Lindy chwilio am leoliad arall i’w hysgol fwyd pan gaewyd y coleg yn ddiweddar.

Trwy lwc, ar yr un pryd roedd John Sullivan newydd gwblhau estyniad ac adnewyddiad oedd yn cynnwys cegin broffesiynol yn siop Vin Sullivan ym Mlaenafon, ac felly fe ddaeth y tri at ei gilydd i ffurfio’r fenter.

Meddai Franco, “Dw i ‘di nabod John Sullivan ers 1963 – trwy ddarparu gwasnaeth cyflenwi bwyd effeithiol ac eang, roedd o’n help mawr yn rhoi’r Walnut Tree ar fap cenedlaethol. Gyda’i wybodaeth a’i brofiad, mae’n ddewis naturiol i ni o ran yr ysgol goginio”.

Pam Blaenafon?

O glywed am y fenter, bu nifer yn cwestiynu’r lleoliad yn un o drefi’r Cymoedd oedd yn fwy adnabyddus am ddiwydiant trwm nac am unrhyw sîn fwyd.

Yn faes cyfarwydd iddo erbyn hyn, meddai Franco, “Fe ddywedodd pawb yr un peth nôl yn y 60au pan agorais i fwyty’r Walnut Tree – ‘pam Llandewi Skirrid o bobman?’. Y gwir yw ‘does na’m ots felly am leoliad pan fod gennych fusnes neu gynnyrch da i’w hyrwyddo, a digonedd o egni, penderfyniad a dychymyg.”

Gan ddechrau gwerthu cynnyrch deli mewn tref lofaol nôl yn y 60au, mae John hefyd erbyn hyn yn feistr ar ddenu cwsmeriaid beth bynnag y lleoliad: “Gyda’r ysgol fwyd newydd yn creu rhwydwaith â chwmniau eraill fel Bwydydd Cain Y Fenni a Chwmni Caws Blaenafon, mae gan y dref siawns go dda o raddol adeiladu sîn fwyd gwerth chweil”.

I Lindy Wildsmith, delwedd yw un o’r ffactorau hollbwysig: “O gymharu â’r llygredd diwydiannol ‘wy’n ei gofio pan yn ymweld â mamgu yng Nghwm Rhymni ers talwm, mae’r Cymoedd bellach yn tyfu’n ôl yn wyrdd, gydag awyr iach yn creu awyrgylch positif a blaengar yn y cymunedau”.

Ysgol goginio i bawb

Er fod gan yr ysgol gyfleusterau coginio proffesiynol, mae’n agored i ddenu pob math o bobol, o ddynion ifanc sy’n edmygu coginio awchus Franco i rieni sy’n hoffi dod â’u plant: “Mae’r ysgol yn un ddiymhongar a chymunedol. Y nod syml yw annog pobl i gofleidio’r syniad o baratoi bwyd yn eu ceginau i’w rannu gyda ffrindiau a theulu”.

Yn ogystal â Franco, yn rhannu gwybodaeth arbenigol gyda myfyrwyr y cwrs fydd nifer o gogyddion adnabyddus eraill, yn cynnwys James Sommerin o’r Crown at Whitebrook, Shaun Hill o’r Walnut Tree a’r gogyddes, Nerys Howell.

Ynghyd â chynnig cyrsiau amrywiol fydd yn cynnwys defnyddio madarch gwyllt a choginio cynnyrch Cymreig, mi fydd yr ysgol yn manteisio ar brofiad Vin Sullivan fel gwerthwr pysgod, gan ddarparu hyfforddiant ar sut i baratoi a choginio bwyd y môr. Bydd hefyd cyfle i ddisgyblion brynu’r cynhwysion a ddefnyddiwyd yn y cyrsiau o siop fwyd Vin Sullivan ar yr un safle.