Wrth i’r dadlau barhau am amgylchiadau rhyddhau bomiwr Lockerbie, mae awdurdodau yn yr Unol Daleithiau wedi gwrthod caniatáu parôl i lofrudd sy’n marw o ganser yr ymennydd.
Roedd Susan Atkins yn un o’r rhai wnaeth gyfaddef i lofruddio’r actores Sharon Tate, gwraig y cyfarwyddwr enwog, Roman Polanski, 40 mlynedd ‘nôl.
Fe gafwyd hi’n euog o saith llofruddiaeth i gyd, gafodd eu cyflawni yn ystod ei hamser yn aelod o gwlt Charles Manson (llun o Charles Manson ar y dde).
Roedd meddygon wedi disgwyl i Susan Atkins farw o’r canser ers dros flwyddyn.
Yn y gwrandawiad fe wnaeth ei chyfreithiwr, sydd hefyd yn ŵr iddi, bledio am ei rhyddhau.
Roedd teuluoedd y rhai hynny gafodd eu llofruddio gan y cwlt yn bresennol i annog yr awdurdodau i’w chadw yn y carchar am oes.
‘Erchyll’
Fe wrthododd y comisiynwyr Tim O’Hara a Jan Enloe, wnaeth lywyddu’r gwrandawiad, roi parôl i’r llofruddwraig.
Dywedodd Tim O’Hara eu bod wedi dod i’r penderfyniad wrth ystyried “natur erchyll” y llofruddiaethau yn 1969.
Ni fydd Susan Atkins yn gymwys am barôl am dair blynedd arall.
Llun: Charles Manson