Mae cynnydd anferth wedi bod yn nifer y plant sy’n cymryd cyffuriau i geisio taclo gor-dewdra, yn ôl ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.
Mae nifer y bobol ifanc dan 18 oed sy’n cymryd cyffuriau o’r fath 15 gwaith yn fwy nag oedd e’ yn 1999.
Yn ôl ymchwilwyr, mae 1,300 o bobol ifanc yn cael eu rhoi ar gyffuriau i atal gor-dewdra bob blwyddyn.
Mae hyn yn achos pryder arbennig, meddai arbenigwyr, gan mai ar gyfer oedolion mae’r cyffuriau yma wedi eu cynhyrchu mewn gwirionedd.
Mae’r ymchwil diweddaraf wedi ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn y British Journal of Clinical Pharmacology.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar y defnydd o gyffuriau orlistat (Xenical), sibutramine (Reductil) a rimonabant (Acomplia) mewn plant o dan 18 oed, gan ffocysu’n benodol ar y cyfnod rhwng Ionawr 1999 a diwedd Rhagfyr 2006.
Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod mai plant 14 oed oedd wedi cael y cyffuriau gan fwyaf, er fod 25 o blant o dan 12 oed wedi cael prescripsiwn ar gyfer y tabledi hefyd.