Mae’r gwasnaethau achub yn Indonesia yng nghanol y dasg o archwilio’r rwbel yn ninas Cianjur er mwyn ceisio dod o hyd i bobol allai fod yn gaeth wedi i ddaeargryn daro yno.
Mae’r awdurdodau yno wedi cyhoeddi bod o leia’ 44 wedi eu lladd gan y ddaeargryn, wnaeth fesur 7.0. Mae disgwyl y bydd nifer y meirw yn cynyddu’n sylweddol.
Mae dros 300 o bobol wedi eu hanafu ac mae dwsinau yn dal ar goll.
Mae ‘na ofnau y gallai nifer fawr o bobol fod wedi eu claddu o dan dirlithriad.
Bellach mae peiriannau mawr wedi cyrraedd Cianjur, tua 60 milltir o Jakarta, i helpu gyda’r ymdrech i geisio dod o hyd i’r rheiny sy’ ar goll.
Yn ôl adroddiadau o Indonesia, mae heddlu, milwyr a phobol leol hefyd yn defnyddio eu dwylo i chwilio.