Mae milwr arall o Brydain wedi ei ladd yn Irac.

Mae’n debyg bod y milwr o gatrawd y Trydanwyr a’r Peiriannwyr Brenhinol wedi marw wedi i’r cerbyd roedd e’n teithio ynddo fe gael ei daro gan fom yn ardal Babaji yn rhanbarth Helmand.

Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae 211 o filwyr Prydain nawr wedi eu lladd yn Afghanistan ers 2001.

Bu’r haf yn gyfnod arbennig o waedlyd i’r fyddin gyda 41 o filwyr Prydain yn cael eu lladd yn ystod Gorffennaf ac Awst yn unig.

Mae 9,000 o aelodau o fyddin Prydain yn gwasanaethu yn Afghanistan.