Mae teulu dyn o Sir Gaerfyrddin gafodd ei herwgipio yn Baghdad yn aros i glywed ai ei gorff e’ sydd e’ wedi ei drosglwyddo at yr awdurdodau yn Irac.
Cafodd Alec MacLachlan o Lanelli, oedd yn gweithio fel swyddog diogelwch yn Irac, ei gipio yn 2007.
Mae ‘na ddyfalu mai ei gorff e’, neu swyddog diogelwch arall, Alan McMenemy, sydd wedi ei drosglwyddo at yr awdurdodau.
Cafodd teuluoedd y ddau wybod chwech wythnos yn ôl gan lywodraeth Prydain ei bod hi’n “debygol iawn” bod y dynion wedi marw.
Eisoes mae cyrff dau weithiwr diogelwch arall, Jason Swindlehurst a Jason Creswell, wedi eu darganfod.
Roedd y dynion yn gwarchod yr ymgynghorydd cyfrifiadurol, Peter Moore.
Dywedodd Gordon Brown ei fod e’n “drist iawn” i glywed bod corff wedi ei drosglwyddo at Lysgenhadaeth Prydain yn Baghdad.