Mae’n debyg y bydd Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn cefnogi rheol newydd fyddai’n golygu bod mwy o chwaraewyr yn gymwys i wisgo’r crys coch.

Cymdeithas Bêl Droed yr Alban sydd wedi cynnig newid y rheolau ar bwy sy’n gymwys i gynrychioli timoedd y bedair gwlad ym Mhrydain.

Mae’r newid wedi ei gefnogi gan Gymru a Gogledd Iwerddon.

Ar hyn o bryd mae’r rheolau’n nodi y gall chwaraewr gynrychioli ei wlad pe bai’r chwaraewr ei hun neu ei rieni neu dadcu neu famgu wedi eu geni yn y wlad honno.

Ond o dan y rheol newydd fe fyddai unrhyw chwaraewr sydd wedi derbyn pum mlynedd o addysg mewn gwlad yn gymwys y chwarae i’r wlad honno.

Fe fyddai hyn yn galluogi chwaraewyr heb gefndir teuluol Cymreig i fod yn gymwys i chwarae dros Gymru pe baen nhw’n derbyn rhan o’u haddysg yn y wlad.