Bymtheg mlynedd wedi’r hil-laddiad yn Rwanda mae dyn busnes wedi mynd o flaen llys wedi ei gyhuddo o roi gorchymyn i ddymchwel eglwys lle roedd 2,000 o bobol Tustsi yn cael lloches.

Fe wnaeth Gaspard Kanyarukiga bledio’n ddi-euog i’r cyhuddiad o ladd 2,000 o bobol yn Egwlys Nyange.

Ond dywedodd yr erlynydd, Holo Makwaia, bod y dyn busnes wedi gorchymyn gyrrwr peiriant tarw dur (bulldozer) i ddymchwel yr adeilad tra roedd y bobol Tutsi yn llochesi yno.

Honnodd yr erlynydd hefyd bod y rheiny oedd wedi ceisio dianc wedi cael eu dal a’u lladd.

Cafodd mwy na hanner miliwn o bobol o leiafrif y Tutsi eu lladd yn ystod yr hil-laddiad yn 1994.

Ers hynny, mae 39 o bobol wedi eu herlyn am hil-laddiad, gyda chwech wedi eu rhyddhau.

Yn 2006, cafodd offeiriad Pabyddol, Athanse Seromba, ei gael yn euog o orchymyn milwyr i roi Eglwys Nyange ar dân a’i dymchwel. Fe gafodd ei garcharu am oes.