Mae pennaeth byddinoedd yr Unol Daleithiau a Nato yn Afghanistan wedi galw am strategaeth newydd i’r ymgyrch filwrol yn y wlad.
Roedd y Cadfridog Stanley McChrystal wedi cynnal ymchwiliad 60 diwrnod o’r rhyfel, ac mae’r adroddiad wedi cael ei anfon i’r Pentagon a phencadlys Nato.
Mewn datganiad dywedodd Nato bod y Cadfridog wedi nodi bod sefyllfa ddifrifol yn Afghanistan, ond bod llwyddiant yn bosib.
Cafodd y cais am yr ymchwiliad ei wneud gan Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Robert Gates, a Nato.
Dyw’r adroddiad ddim yn trafod a oes angen anfon mwy o filwyr i’r wlad. Bydd y mater hynny’n cael ei drafod ar wahân.