Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban wedi gwrthod y cwestiynau sydd wedi cael eu codi ynglŷn â’r cyngor meddygol y cafodd cyn rhyddhau’r bomiwr Lockerbie.
Fe gafodd Abdelbaset Ali Mohmed Al Megrahi ei ryddhau ar ôl i Kenny MacAskill dderbyn cyngor meddygol yn dynodi bod gan y bomiwr lai na thri mis i fyw.
Fe dderbyniodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder y cyngor gan gyfarwyddwr iechyd a gofal cymdeithasol o Wasanaeth Carchar yr Alban.
“Roedd yr adroddiad wedi selio ar wybodaeth gafodd y cyfarwyddwr gan amryw o bobl oedd wedi trin Mr Megrahi cyn, yn ystod, ac ar ôl i’w iechyd waethygu”, meddai Kenny MacAskill.
“Nid wyf yn mynd i herio adroddiad y cyfarwyddwr.”
Gwadodd Kenny MacAskill honiadau bod rhyddhad y bomiwr wedi cael ei gysylltu gyda chytundebau masnachu gyda Libya.
Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Prydain, Jack Straw, hefyd wedi gwadu’r honiadau yma.