Mae Caerdydd yn diodde’ o hyd wedi’r golled i Doncaster gyda’r newydd y byddan nhw’n gorfod gwneud heb ymosodwr arall am gyfnod.
Fe gafodd Jay Bothroyd ei anafu yn y gêm ddydd Sadwrn.
Bydd Bothroyd yn cael sgan ar ei ben-glin gyda’r clwb yn credu bod hyn wedi cyfrannu at yr ymosodwr yn anafu llinyn y gar.
Mae’r Adar Glas eisoes wedi colli eu prif sgoriwr y tymor diwethaf – Ross McCormack – i anaf. Mae’n debyg y bydd yr Albanwr allan am tua mis arall.
Ond bydd colli Bothroyd yn ergyd fawr i Dave Jones a’i dîm ar ôl iddo fe a Michael Chopra ffurfio partneriaeth effeithiol i Gaerdydd ar ddechrau’r tymor.
Er hynny, mae gan Dave Jones opsiynau wrth gefn gyda Kelvin Etuhu a Josh Magennis hefyd ar gael i lenwi’r bwlch.