Ni fydd Simon Davies a Gareth Bale ar gael i chwarae i Gymru yn erbyn Rwsia oherwydd anafiadau.

Ond mae disgwyl i Jason Koumas ddychwelyd i’r garfan ar gyfer y gêm ragbrofol yn Stadiwm y Mileniwm ar 9 Medi.

Mae John Toshack hefyd yn gobeithio croesawu ei gapten Craig Bellamy ‘nôl i’r garfan.

Llawdriniaeth

Roedd Bale wedi cael llawdriniaeth ar ei ben-glin ym mis Mehefin, ac roedd disgwyl iddo ddychwelyd ar gyfer y gêm yn erbyn Rwsia.

Mae tîm meddygol Tottenham yn credu na fydd yn barod i chwarae eto tan ddiwedd mis Medi.

Mae chwaraewr canol cae Fulham, Simon Davies, yn parhau i wella o lawdriniaeth ar ei droed ym mis Mai.