Mae ‘na adroddiadau yng nghyfryngau China bod mwy o achosion o blant yn dioddef o wenwyno plwm.

Yn ôl papur newydd China Daily mae tua 200 o blant wedi eu gwenwyno yn ardal Tongdu yn ne orllewin rhanbarth Yunnan.

Mae’r papur newydd yn dweud bod rhieni’r plant yn cyhuddo parc diwydiannol o achosi’r gwenwyno.

Ymchwiliad

Mae disgwyl canlyniadau ymchwiliad i’r gwenwyno gan Weinyddiaeth
Diogelwch Amgylcheddol China i gael eu cyhoeddi’r wythnos hon.

Mae’r papur newydd hefyd yn dweud bod swyddogion amgylcheddol yn credu bod lefelau uchel o nwyon o gerbydau wedi cyfrannu at y gwenwyno.

Daw’r achosion diweddaraf ar ôl i tua 2,100 o blant gael eu gwenwyno ar ddechrau mis Awst.