Mae’r heddlu wedi enwi’r ferch gafodd ei chanfod wedi ei thagu mewn lori yng nghanolbarth Lloegr ddydd Sadwrn.

Roedd Stacey Lawrence yn naw oed, a chredir ei fod wedi ei lladd gan bartner ei mam.

Daethpwyd o hyd i gorff y ferch mewn lori Spar ger yr A605 yn Warmington, Swydd Northampton brynhawn dydd Sadwrn.

Mae’r heddlu hefyd wedi enwi partner mam y ferch, a gafodd ei ganfod wedi crogi mewn coedwig gyfagos. Roedd Darren Walker, 40 oed, hefyd o ganolbarth Lloegr.

Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Tricia Kirk o Heddlu Swydd Northampton nad oedd yna dystiolaeth hyd yma bod Stacey Lawrence wedi cael ei cham-drin yn rhywiol.

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn trin y marwolaethau fel llofruddiaeth a hunan laddiad.