Mae ymchwiliad ar y gweill i honiadau fod yr heddlu wedi saethu gwn ‘taser’ at ben dyn wrth ei arestio yn ardal Castell-nedd.
Fe wnaeth dyn 45 oed o Lansawel (Briton Ferry) gwyno fod yr heddlu wedi ymosod arno wrth ei arestio ar Awst 15 a saethu gwn ‘taser’ at ei ben.
Wedi i’r dyn gael ei arestio aethpwyd ag e’ i’r ysbyty i gael triniaeth ac fe gafodd bwythau i anafiadau i’w wyneb.
Fe gafodd ei arestio wedi cwynion fod dyn wedi achosi niwed troseddol yn yr ardal gan ddefnyddio trosol (crowbar). Honnwyd fod y niwed troseddol wedi ei gyflyru gan hiliaeth.
Fe’i ryddhawyd ar fechnïaeth yn ddiweddarach.
Heddiw cadarnhaodd y corff sy’n ymchwilio i gwynion yn erbyn yr heddlu eu bod nhw’n ystyried honiadau’r dyn ymhellach.
Dywedodd comisynydd y corff yng Nghymru, Tom Davies, “Fel corff annibynnol sy’n gyfrifol am gynnal hyder y cyhoedd tra’n ymchwilio i gwynion yn erbyn yr heddlu, ry’n ni’n edrych ar ddefnydd gynnau taser yn agos iawn.”
“Byddwn yn ceisio sefydlu os oedd y defnydd o rym yn yr achos hwn yn gymwys ac angenrheidiol.”
“Byddwn hefyd yn ceisio sefydlu os oedd defnyddio’r taser yn gymwys ac yn angenrheidiol yn yr achos yma. Ac, os oedd wedi ei awdurdodi yn iawn, yn dilyn cyngor tactegol yn cydfynd â’r polisi ar gyfer achosion o’r fath.”