Mae cymdeithas sydd yn ail gartrefu cŵn wedi beirniadu penderfyniad yr RSPCA i ddifa deg ci gyda gwn bollten (captive bolt gun).
Fe wnaeth yr RSPCA ymweld â chartref dyn oedd wedi marw ym Mhontardawe, ar ôl i berthnasau gysylltu gyda nhw i ddweud nad oedd neb i ofalu am y cŵn.
Roedd y perthnasau wedi rhoi caniatâd i’r RSPCA ddifa’r cŵn – cŵn defaid o’r Almaen (German Shepherd) – gan eu bod yn dioddef o gyflwr difrifol i’w croen.
Fe benderfynodd yr RSPCA mai defnyddio gwn bollten oedd y modd mwyaf hynaws i’w difa.
‘Annerbyniol’
Ond dywedodd Jayne Shenstone o gymdeithas ‘German Shepherd Dog Rescue’ nad oedd angen difa’r cŵn.
“Roedd angen iddynt gael eu hachub a chael eu hasesu, nid cael eu saethu yn eu pennau gyda gwn”, meddai.
“Dyw saethu cŵn gyda gwn bollten ddim yn fodd derbyniol o ladd anifail anwes.”
Mae llefarydd ar ran yr RSPCA wedi dweud bod un o’u harchwilwyr wedi asesu’r anifeiliaid ar ôl derbyn galwad gan y teulu.
‘Anaddas’
Fe benderfynodd yr archwiliwr nad oedd y cŵn yn addas i’w hail gartrefi oherwydd y problemau difrifol i’w croen ynghyd â’u ymddygiad ymosodol at bobl.
Yn wreiddiol, roedd yr RSPCA wedi dweud wrth y teulu i ddod o hyd i elusen fyddai’n fodlon gofalu am y cŵn.
Ond yn ôl yr RSPCA roedd rhai elusennau wedi gwrthod cymryd gofal, ac felly penderfynodd y teulu roi’r cŵn yng ngofal yr RSPCA.
Dioddefaint
Roedd yr RSPCA wedi penderfynu defnyddio’r gwn bollten oherwydd byddai ffyrdd eraill o ddifa – er enghraifft, defnyddio chwistrell – wedi achosi mwy o ddioddefaint i’r cŵn.
“Byddai wedi bod angen eillio blew’r cŵn cyn eu chwistrellu ac fe fyddai hyn wedi achosi dioddefaint iddynt gan eu bod yn dioddef o broblemau i’w croen,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA.