Bydd y llywodraeth yn codi’r dreth ar danwydd cerbydau ddwy geiniog o hanner nos heno – y trydydd cynnydd mewn naw mis.
Yn ôl y llywodraeth, mae’n rhaid cynyddu’r dreth ar betrol a diesel er mwyn rhoi cymorth i fuddsoddiad cyhoeddus.
Ond mae’r cynnydd wedi ei feirniadu gan fudiadau moduro.
“Bydd hyn yn bwrw pawb yn galed,” meddai llefarydd ar ran cymdeithas yr RAC.
Disgrifiodd yr AA y cynnydd fel datblygiad “eitha’ arswydus”.
Mae archfarchnad Morrisons wedi dweud na fyddan nhw’n codi eu prisiau tan ddydd Sul, Medi 6.
Ar ôl cynnwys Treth Ar Werth (VAT), bydd y cynnydd yn dod i 2.3 ceiniog. Ar hyn o bryd mae pris petrol ar gyfartaledd ar draws gwledydd Prydain yn 105c y litr.
Fe wnaeth Cymdeithas y Gwerthwyr Petrol dynnu sylw at y ffaith y bydd pris tanwydd yn codi eto pan fydd Treth Ar Werth yn cynyddu o 15% i 17% ar ddiwedd y flwyddyn.