Bydd post mortem yn cael ei gynnal heddiw ar gorff dyn fu farw wedi ffrae mewn priodas yng ngogledd Cymru.
Bu farw Michael Pennington, 26 oed o Ashton-under-Lyne, Manceinion, ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben wedi’r ffrwgwd yng Ngwesty Mountain Park yn y Fflint nos Sadwrn.
Fe ddaeth ambiwlans i’r gwesty am tua 10.00pm nos Sadwrn. Cludwyd Michael Pennington i Ysbyty Iarlles Caer lle bu farw yn ddiweddarach.
Mae dyn 44 oed, hefyd o Fanceinion, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Yn ôl gweithiwr yn y gwesty, mynychu priodas yr oedd y dyn a fu farw, a chredai i’r ffrae ddigwydd rhwng cariadon dwy chwaer.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion ac yn galw ar unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 0845 607 1001.
(Llun: Michael Pennington)