Mae arweinydd newydd Japan, Yukio Hatoyama, yn dechrau ar y gwaith o sefydlu ei gabinet heddiw wedi i’w blaid drechu’r ceidwadwyr yn etholiadau’r wlad – gan eu disodli am ddim ond yr eildro mewn 54 mlynedd.

Wrth i’r canlyniadau swyddogol gael eu cyfri’, mae adroddiadau gan gyfryngau Japan yn datgan fod plaid Mr Hatoyama – Plaid Ddemocrataidd Japan – wedi ennill mwy na 300 o’r 480 o seddi yn nhŷ isaf y senedd.

Mae hynny’n hen ddigon i sicrhau y bydd e’n cael ei urddo’n Brif Weinidog mewn sesiwn arbennig o’r senedd yng nghanol mis Medi.

Fe wnaeth Taro Aso, y cyn-Brif Weinidog, gyudnabod ei fod wedi colli gan ychwanegu y byddai’n camu o’r neilltu fel llywydd y Blaid Ddemocratig Ryddfrydol.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn Japan, er i blaid Yukio Hatoyama gael buddugoliaeth hawdd, mae’n debyg mai pleidleisio yn erbyn polisïau y Blaid Ddemocratig Ryddfrydol oedd etholwyr, yn hytrach na dros yr hyn oedd gan Mr Hatoyama a Phlaid Ddemocrataidd Japan i’w gynnig.

Bydd Mr Hatoyama a’i blaid hefyd yn wynebu etholiad arall y fwlyddyn nesaf ar gyfer tŷ uchaf y senedd – sy’n llai pwerus na’r un isaf.

Mae her fawr yn wynebu y Prif Weinidog newydd.

Mae Japan wedi llwyddo i ddod allan o ddirwasgiad wnaeth bara am flwyddyn gron, ond mae’r economi yn dal yn wan.

Mae cyflogau wedi syrthio ac mae canran y bobol sy’n ddi-waith wedi codi i record o 5.7%.