Mae dau ddiffoddwr tân wedi eu lladd wrth ymladd tân gwyllt sydd wedi lledaenu dros ardal yng nghyffiniau Los Angeles.

Yn ôl yr awdurdodau yn California bu farw’r ddau ddiffoddwr wedi i’w cerbyd rholio oddi ar ochr mynydd yng Nghoedwig Genedlaethol Angeles wrth iddyn nhw geisio reoli tân anferth.

Mae teuluoedd y ddau wedi cael gwybod, ond dyw eu henwau ddim wedi eu cyhoeddi.

Mae’r tân wedi lledaenu dros 66 milltir sgwâr. Mae 18 o adeiladau wedi eu dinistrio ac mae bygythiad i 12,000 o gartrefi.