Mae’r Dalai Lama wedi bod yn gweddïo dros deuluoedd y rhai fu farw yn un o’r stormydd gwaethaf i daro Taiwan.
Bu’n ymweld â’r man lle unwaith safai pentref Shiao Lin – ond bellach mae wedi ei orchuddio gyda haenen drwchus o fwd, wedi i’r pentref gael ei daro gan Deiffŵn Morakot yn gynharach yn y mis.
Bu farw cannoedd o bobol o ganlyniad i’r stormydd.
Dywedodd y Dalai Lama ei fod yn gobeithio na fyddai ei ymweliad yn achosi problemau i Taiwan ac yn effeithio ar eu perthynas gyda China.
Mae China wedi difrïo’r Dalai Lama oherwydd ei fod wedi bod yn ymgyrchu am annibyniaeth i Tibet, ac fe wnaeth llefarydd ar ran llywodraeth China fynegi pryderon y gallai ymweliad y Dalia Lama gael “dylanwad negyddol” ar y berthynas rhyngddyn nhw â Taiwan.