Bydd pobol sy’n cyflawni troseddau neu’n ymddwyn yn anghymdeithasol o ganlyniad i yfed alcohol nawr yn wynebu gorchymyn ASBO.
Fel rhan o fesurau newydd bydd y llysoedd nawr yn cael y pwerau i wahardd troseddwyr rhag mynychu tafarndai penodol neu ymweld â llefydd arbennig.
Gallai unigolion sy’n tramgwyddo amodau’r gorchymynion fyddai’n cael eu gosod arnyn nhw wynebu dirwyon o hyd at £2,500.
Bydd y gorchmynion yn para am hyd at ddwy flynedd – er bydd modd eu byrhau os yw’r troseddwyr yn cytuno i fynd ar gyrsiau arbennig i newid eu ymddygiad.
Dywedodd Alan Campbell, gweinidog yn y Swyddfa Gartref, y bydd y mesurau newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
“Bydd y gorchmynion newydd yn rhwystro’r rheiny sy’n adnabyddus i’r awdurdodau, tafarnwyr ac, yn aml, i’r cymunedau, rhag dinistrio bywydau pobol,” meddai.
Ond mae’r mudiad ymgyrchu dros hawliau sifil, Liberty, wedi cyfeirio at y mesurau newydd fel “gimic” sydd ddim yn debygol o daclo’r rhesymau pam fod pobol yn troseddu yn y lle cyntaf.