Mae’r blaid geidwadol sydd wedi llywodraethu Japan bron yn ddi-dor ers 54 mlynedd wedi cael ei threchu’n llwyr yn etholiad y wlad heddiw.
Mae pleidleiswyr y wlad wedi ffafrio’r gwrthbleidiau sydd i’r chwith o’r canol ac sydd wedi addo ailadeiladu’r economi ac anadlu bywyd newydd i’r wlad.
Y disgwyl yw fod y brif wrthblaid, Plaid Ddemocrataidd Japan, wedi ennill 300 o’r 480 sedd yn y senedd, gan ddisodli’r Democratiaid Rhyddfrydol, sydd wedi llywodraethu’n ddi-dor ers 1955 ac eithrio 11 mis.
Mae’r canlyniad yn cael ei ddehongli fel arwydd o rwystredigaeth yr etholwyr ynghylch dirwasgiad economaidd gwaethaf y wlad ers yr ail ryfel byd, a’u diffyg hyder yn eu llywodraeth i fynd i’r afael â phroblemau anodd fel dyled gynyddol y wlad a’r boblogaeth sy’n cyflym heneiddio.
Wrth i’r bythau pleidleisio gau heddiw, dywedodd swyddogion fod nifer uchel wedi pleidleisio, er gwaethaf teiffŵn ar y ffordd – sy’n arwydd o gryfder teimladau’r bobl ar ôl ymgyrchu brwd gan y pleidiau.
Er na fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n swyddogol tan fory, y disgwyl yw y bydd arweinydd Plaid Ddemocrataidd Japan, Yukio Hatoyama, yn disodli’r Prif Weinidog Taro Aso ac yn sefydlu cabinet newydd yn fuan.
Mewn datganiad heddiw, addawodd y Blaid Ddemocrataidd:y bydden nhw’n newid Japan.
Llun: Arweinydd y Blaid Ddemocrataidd, prif wrthblaid Japan, Yukio Hatoyama, ar y chwith, ac ysgrifennydd cyffredinol y blaid, Katsuya Okada, yn cadw llygad ar y canlyniadau yn Tokyo heddiw. (AP Photo/Koji Sasahara)