Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw wedi ffrae mewn gwesty.
Cafodd y dyn 44 oed ei arestio ar ôl i ddyn 26 oed dderbyn anafiadau difrifol i’w ben yng ngwesty a chlwb gwledig y Mountain Park yn y Fflint.
Dywedodd llefarydd ar Heddlu Gogledd Cymru i ambiwlans gael ei galw i’r gwesty tua 10pm neithiwr i fynd â’r dyn a anafwyd i ysbyty Caer. Bu farw’r bore yma.
Mae’r ddau ddyn o Fanceinion, ac mae’r heddlu’n apelio am dystion ac i unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio ar 0845 607 1001.
Yn ôl gweithiwr yn y gwesty, mynychu priodas yr oedd y dyn a fu farw, a chredai i’r ffrae ddigwydd rhwng cariadon dwy chwaer.