Bydd Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno mesur i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn ystod y flwyddyn seneddol sydd ar gychwyn.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Prif Weinidog yr Alban ac Arweinydd yr SNP, Alex Salmond, y bydd mesur o’r fath yn rhan o raglen ddeddfwriaethol ei lywodraeth.

“Bydd hyn yn gosod dyfodol yr Alban – a’r pwerau y mae arnom eu hangen i lwyddo fel cenedl – yng nghanol y ddadl wleidyddol a chyhoeddus,” meddai’r llefarydd.

“Mae gan Lywodraeth yr SNP yr hyder i roi’r cwestiwn yn glir mewn refferendwm, ac rydym yr un mor hyderus y bydd pobl yn dewis annibyniaeth a chydraddoldeb i’r Alban.

“Yr her i bleidiau Llundain yw a ydyn nhw’n ymddiried yn y bobl ai peidio.”

Roedd yr SNP eisoes wedi datgan eu bwriad i gyflwyno deddfwriaeth am refferendwm yn gynnar yn 2010, gyda phleidlais bosibl yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Gan mai llywodraeth leiafrifol y mae’r SNP yn ei harwain, nid oes unrhyw sicrwydd a fyddai mesur o’r fath yn cael ei basio gan y senedd. Yn y gorffennol mae’r tair prif blaid arall wedi mynegi gwrthwynebiad i’r syniad.

“Galw bl?ff Alex Salmond”

Fodd bynnag, mae Tori blaenllaw heddiw wedi pwyso ar y Prif Weinidog Gordon Brown “i alw bl?ff Alex Salmond” a mynd ati ei hun i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Aeth yr Arglwydd Forsyth, un o gyn-Ysgrifenyddion Gwladol yr Alban, cyn belled ag awgrymu y dylai Albanwyr gael y cyfle i bleidleisio dros aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig neu beidio yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Dylai Gordon Brown gyhoeddi’r mis nesaf y bydd yn caniatáu dau bapur pleidleisio i’r Albanwyr yn yr etholiad nesaf: un i bleidleisio dros eu AS a’r llall i ofyn cwestiwn syml – a ddylai’r Alban barhau fel rhan o’r Deyrnas Unedig?”

Mae’r Arglwydd Forsyth yn pwyso hefyd ar arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, i addo mesur yn San Steffan i ganiatáu refferendwm annibyniaeth “cyn gynted ag sy’n bosibl” os bydd y Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad nesaf.

Ychwanegodd ei fod yn ffyddiog y gallai Mr Cameron “ennill pleidlais Ie ac achub yr Undeb”.