Annog pobl i ddychwelyd at bleserau sylfaenol cefn gwlad yw nod trefnwyr gŵyl sy’n cael ei chynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn a dydd Sul nesaf.
“Ein gobaith yw gweld pobl yn gwerthfawrogi cefn gwlad, gan goginio a bwyta’i gynhwysion, dysgu am ei draddodiadau a mwynhau’r awyr iach,” meddai Julia Horton-Powdrill, un o sylfaenwyr y ‘Really Wild Food Festival’ a fydd yn cael ei chynnal am y pumed tro eleni.
Wrth addo gŵyl ‘wylltach nag erioed’, dywed y trefnwyr mai un o’r atyniadau newydd eleni fydd rasys moch, lle bydd cyfle i ymwelwyr fetio ar wahanol faeddod gwyllt croesfrid.
Fel arfer, rhan ganolog o’r ŵyl fydd yr arddangosiadau coginio, a fydd yn cael eu harwain eleni gan y cogydd teledu adnabyddus Dudley Newbury.