Mae tân gwyllt yn y mynyddoedd uwchben Los Angeles yn lledaenu i bob cyfeiriad gan beryglu tua 10,000 o gartrefi.
Yn sgil y tywydd poeth ddoe, fe wnaeth y tân dreblu mewn maint gan adael tri o bobl wedi llosgi, dinistrio o leiaf dri o gartrefi a gorfodi i filoedd o bobl ffoi o’u cartrefi.
Y gobaith yw y bydd gostyngiad bach mewn tymheredd a rhagor o griwiau tân o wahanol rannau o’r dalaith yn helpu lliniaru’r sefyllfa rywfaint heddiw.
Mae dros 31 milltir sgwâr o goedwig sych wedi cael ei losgi gan y tân, a dim ond 5% ohono oedd dan reolaeth.